Skip to content
Lansio prentisiaeth newydd sbon i hybu sgiliau gwyrdd

Mae Educ8 Training wedi lansio prentisiaeth Rheoli Ynni a Charbon newydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Beth yw Rheoli Ynni a Charbon?

Mae rheoli ynni a charbon yn ymwneud â deall, mesur ac optimeiddio defnydd ynni a charbon cwmni. Mae ein cwrs Lefel 3 yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru – sy’n golygu dim cost i’r busnes na’r dysgwr. Bydd yn helpu busnesau a dysgwyr i wneud dewisiadau a phenderfyniadau gwell trwy newid meddylfryd ac ymddygiad.

Gyda modiwlau sy’n cynnwys Caffael Ynni, Ymgysylltu â’r Gymuned a Dadansoddiad o’r Defnydd o Ynni, bydd y cymhwyster yn addysgu prentisiaid sut i redeg cwmni cynaliadwy sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, gan sicrhau hefyd bod y busnes yn gallu ffynnu a thyfu. Bydd cyflogwyr yn elwa ymhellach o’r brentisiaeth wrth i’r prentisiaid ddysgu gwella effeithlonrwydd gweithredol a thorri costau gwastraff.

Targed o Sero Net

Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi canfod, er bod y Gyllideb Garbon Gyntaf (2016-2020) wedi’i chyflawni, nid yw Cymru ar y trywydd iawn eto i gyrraedd ei thargedau Sero Net ar gyfer ail hanner y degawd hwn a thu hwnt. Mae’n rhaid i weithredu ar ddatgarboneiddio yng Nghymru gyflymu nawr.

Fel rhan o’i ymrwymiad i’r amgylchedd, bydd Educ8 Training hefyd yn gweithio gyda’r elusen hinsawdd Cynnal Cymru, i sicrhau bod strategaeth gynaliadwyedd y Grŵp yn gyfredol ac mor gynhwysfawr â phosibl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Educ8 yn arwain drwy esiampl ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at darged Llywodraeth Cymru o Gymru yn dod yn genedl sero net erbyn 2050.

Dywedodd Simone Hawken, Rheolwr Cymwysterau yn Educ8: “Mae’r brentisiaeth Ynni a Rheoli Carbon newydd hon wedi’i chreu i ddatblygu sgiliau gwyrdd hanfodol sy’n ofynnol yn Rhaglen Sero Net Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr i’w galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon o ran ynni yn y gwaith a gartref.”

Dywedodd Clare Sain-ley-Berry, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru: “Rydym yn falch iawn o gefnogi ymdrechion Educ8 Training i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. Mae Cynnal Cymru wedi bod yn cefnogi unigolion a sefydliadau sy’n grymuso pawb gyda gwybodaeth hanfodol a chynlluniau gweithredu tuag at gynaliadwyedd. Rydym yn annog pob sefydliad i gymryd camau tuag at adeiladu diwylliant cynaliadwy.”

Cofrestrwch nawr neu darganfyddwch fwy am y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon.

13th October 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

18th September 2023

Grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr

17th September 2023

Hanner ffordd i gwblhau ILM

16th June 2023

Educ8 Training yn dathlu Diwrnod Perchnogaeth Gweithwyr y DU

Chat to us

Skip to content