Skip to content
Cynllun Cymhelliant Cyflogwr wedi’i Ymestyn Hyd at Fawrth 2023 ar gyfer Prentisiaid Anabl

Dros y flwyddyn nesaf, bydd busnesau sy’n recriwtio prentis ag anabledd yn cael taliad cymhelliant o £2000.

 

Mae’r cynllun yn rhan o gynllun cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru a’i nod yw helpu pobl ag anableddau i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Mae’n annog cyflogwyr i brofi manteision recriwtio aelodau staff anabl i’w gweithlu.

 

Bydd busnesau’n gallu hawlio’r taliad cymhelliant ar gyfer hyd at 10 o brentisiaid anabl o nawr tan fis Mawrth 2023, cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

 

Pwy sy’n gymwys?

 

I fod yn gymwys ar gyfer y cyllid rhaid i brentisiaid weithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac ni allant gael eu cyflogi ar gontract dim oriau.

 

Mae’n rhaid i’r anabledd gael ei ddatgelu gan y prentis yn ei gyfnod recriwtio, cyn iddo ddechrau ar ei brentisiaeth. Mae prentisiaid yn gallu hunan-ddatgan ac nid oes angen iddynt ddarparu tystiolaeth o’u hanabledd.

 

Mae angen i gyflogwyr ymrwymo i gyflogi’r prentis am hyd eu rhaglen brentisiaeth.

 

Nid yw pob anabledd yn weladwy

 

Mae’n bwysig nodi nad yw pob anabledd yn weladwy. Dim ond oherwydd nad yw’n amlwg bod rhywun yn byw gydag anabledd, nid yw’n golygu eu bod yn llai dilys.

 

Mae hyn yn cynnwys:

· Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol

· Nam amlsynnwyr

· Anhwylderau’r sbectrwm awtistig

· Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu

· Anawsterau dysgu Cymedrol/Difrifol/Dwys a lluosog

· Dyslecsia/Dyscalcwlia/Dyspracsia/ADHD

 

Nid oes unrhyw reswm i beidio â chyflogi rhywun ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Mae gan Anya O’Callaghan, Prentis Cyfryngau Cymdeithasol, Asperger’s ond nid yw hyn erioed wedi ei dal yn ôl yn ei rôl. Mae hi nawr yn helpu i ddatblygu deunyddiau dysgu yn ei salon ar gyfer prentisiaid ifanc gyda Dyslecsia a Dyspracsia.

 

Meddai “Nid oes unrhyw reswm i beidio â chyflogi rhywun ag anghenion dysgu ychwanegol. Ar ddiwedd y dydd maen nhw fel pawb arall ond maen nhw angen ychydig mwy o gefnogaeth mewn rhai meysydd.”

 

Gwyliwch gyfweliad llawn Anya.

Recriwtio prentis – cysylltwch â ni nawr.

13th October 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

18th September 2023

Grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr

17th September 2023

Hanner ffordd i gwblhau ILM

31st March 2022

Bod yn Awtistig yw Beth Sy’n Eich Gwneud Chi, Chi

Chat to us

Skip to content