Skip to content
Mae ein staff bellach yn berchen ar y rhan fwyaf o’r cwmni

Mae staff y cwmni Educ8 Training Group o Gaerffili wedi dod yn gyfranddalwyr mwyafrif y busnes.

 

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi eu bod wedi cwblhau cynllun Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yn llwyddiannus. Mae ei staff bellach yn gyfranddalwyr mwyafrifol ac yn berchen ar 51 y cant o’r busnes gyda’i gilydd.

 

Bydd y cynllun yn creu strwythur sy’n canolbwyntio mwy ar y gweithwyr er mwyn grymuso staff a bod o fudd i’r cwmni cyfan. Mae gan Educ8 enw da am roi gweithwyr a’r gymuned wrth galon y busnes ac mae’n enwog am ei ymagwedd gwerthoedd cryf.

 

Dywedodd Colin Tucker, Cadeirydd Educ8 Training, “Ers sefydlu’r busnes mae bob amser wedi bod yn bwysig cael cymuned wrth galon Educ8. Mae sefydlu’r ymddiriedaeth hon o blaid ein gweithwyr yn golygu y gallwn wir ddweud bod Educ8 wedi’i wreiddio yn ein cymunedau lleol. Bydd yn creu gwir werth a chyfoeth i’r rhai sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant.

 

“Gall ein bwrdd cyfarwyddwyr, cynrychiolwyr ymddiriedolaethau a’n holl weithwyr barhau i yrru’r busnes i uchelfannau a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn. Mae Ymddiriedolaethau Perchnogaeth Gweithwyr yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru ac maent yn sbardun allweddol ar gyfer creu cyfoeth mewn cymunedau.”

 

Wedi’i sefydlu yn 2004 i fynd i’r afael â phrinder sgiliau yng Nghymru, mae Educ8 bellach yn cyflogi dros 200 o staff. Mewn cyfnod eithriadol o dwf, ehangodd y cwmni i Loegr yn ddiweddar gyda phedwerydd caffaeliad. Enwyd Educ8 y Cwmni Canolig Rhif 1 Gorau i weithio iddo yn y DU yn arolwg Cwmnïau Gorau 2021 ac mae ganddo hanes profedig o ymgysylltu â gweithwyr.

 

Dywedodd Grant Santos, Prif Swyddog Gweithredol Educ8 Training, “Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd gwaith gwych a phrofiad dysgu cyfoethog i’n dysgwyr a’n partneriaid. Rydym yn hyrwyddo ymgysylltiad gweithwyr o safon fyd-eang ac yn falch o gydnabod ein staff mewn ffordd ystyrlon ac arwyddocaol.

 

“Mae pobl wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Fel cwmni sy’n seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd moesol cryf, mae’r penderfyniad hwn yn drawsnewidiad naturiol. Ein staff ni, y teulu Educ8 sydd wedi creu amgylchedd mor wych i weithio ynddo. Mae’n bryd bellach i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect rannu’r llwyddiant hwnnw. Byddwn yn gyrru’r busnes i uchder hyd yn oed yn uwch ac yn gwneud y mwyaf o’r cyfle a ddaw yn sgil creu’r EOT i bawb dan sylw.”

Daw cyhoeddiad y cynllun wrth i Lywodraeth Cymru addo £366m i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn y tair blynedd nesaf.

 

Mae’r buddsoddiad mawr hwn yn dilyn £152m o gyllid gan Lywodraeth Cymru y llynedd, gan gynnwys cymhellion cyflogwyr i recriwtio drwy brentisiaethau i helpu busnesau i wella ar ôl y pandemig.

 

Gyda chymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru, bydd Educ8 yn parhau i ddarparu prentisiaethau a hyfforddiant o safon yn y gweithle i sicrhau bod cyflogwyr, dysgwyr a staff yn cyrraedd eu llawn botensial.

 

Ariannwyd y newid i gynllun EOT gan Boost & Co, gyda’r arbenigwyr gwneud bargeinion GS Verde Group yn cynghori trwy gydol y trafodiad.

 

Dysgwch fwy am y cymwysterau rydym yn eu cynnig: haddontraining.co.uk/apprenticeships

 

 

13th October 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

18th September 2023

Grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr

17th September 2023

Hanner ffordd i gwblhau ILM

1st June 2023

Fy Nhaith Brentisiaeth

Chat to us

Skip to content